Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Wythnos 4 Mae’r prosiect wedi cyrraedd ei derfyn

Mae’r prosiect wedi cyrraedd ei derfyn. Mae’r llyfrau wedi ei ddigideiddio, yn cynwys platiau’r llyfrau ac yr holl nodiadau

<p>

Gwaith ditectif fu rhan olaf y project, ceisio canfod o ble daeth y llyfr a pha gopi ydyw. Cefais i help gyda hyn, gan fod rhywun eisoes wedi nodi (wedi'i seilio ar y toriadau a bastiwyd i mewn) fod y llyfr yn rhwymiad Edwards o Halifax – cliw pwysig iawn a fyddai yn y pen draw yn datrys dirgelwch tarddiad y llyfr.

Yn gyntaf, bu i'r toriad, a ffynonellau ategol eraill daflu goleuni ar anghysondeb y bedwaredd gyfrol h.y. y diffyg dyfrlliwiau a'r argraffiad diweddarach a ddefnyddiwyd i'w roi at ei gilydd.

Cyfrol 2 o PTIP170218: Copi gan John InglebyCyfrol 2 o PTIP170218 Copi gan John InglebyMae'n bwysig sylweddoli yr archebwyd y llyfrau hyn yn arbennig, ac ni wnaed y cyfan ar yr un pryd (ond mae'n debyg y cawsant eu rhwymo fel un yn y 1880au). Rhoddwyd y "llyfr" cyntaf i Richard Bull, cyfaill mawr Pennant a chasglwr celf llyfrau (rhyngdalennwr), (a rannodd yn gyfrol un a dau) pan gafodd ei gyhoeddi gyntaf ar ffurf tudalennau rhydd gydag ymylon llydan iawn, wedi'i greu'n arbennig ar ei gyfer ef a gwahanol gyfeillion Pennant. Gan ei bod yn ddiddordeb mawr gan Bull i roi darluniau ychwanegol yn ei lyfrau, gyda chopïau dyfrlliw pan nad oedd yn gallu cael gafael ar blatiau ychwanegol, gofynnodd i Pennant roi benthyg John Griffiths iddo er mwyn darlunio ei lyfr. Nid oedd hyn yn bosibl yng ngwanwyn 1780 pan oedd Bull yn gwneud y gwaith hwn, gan fod Griffiths yn brysur gyda Pennant, fodd bynnag, ar ei argymhelliad personol, roedd John Ingleby yn brysur fel copïwr ar gyfer y llyfr cyntaf, y Tours in Wales gwreiddiol, (cyfrol 1 a 2 Bangor).

Cyfrol 3: Copi gan John HarrisCyfrol 3: Copi gan John Harris Ar ôl hyn, ysgrifennodd Pennant Journey to Snowdon, ac, wrth i Griffiths briodi yn 1781, caniataodd Pennant ychydig o hyblygrwydd iddo o ran pwy yr oedd yn gweithio iddo; felly pan ofynnodd Bull am gael darluniau ychwanegol yn ei llyfr fformat mawr (a anfonwyd eto mewn tudalennau rhydd arbennig), Griffiths ei hun wnaeth y gwaith hwnnw.

Oherwydd anghytuno rhwng Bull a Griffiths, ymddengys bod y gwaith ar bedwaredd gyfrol Tours’ (a gyhoeddwyd yn 1784) wedi'i roi o'r neilltu. Yn ôl pob sôn, ni fu i Bull a Griffiths weithio gyda'i gilydd arno eto, ond gweithiwyd yn helaeth ar The Journey from Chester to London yn 1783-4, felly mae'n bosib y rhoddwyd y gwaith o'r neilltu o blaid Chester to London, gwaith na fu i Bull ei orffen a'i anfon at y rhwymwyr tan 1791.

Efallai y ceir rhagor o dystiolaeth y cefnwyd ar gopi Bangor gan Bull; mae'r nodyn a bastiwyd yn y llyfr yn dyddio'r rhwymo i 1881-4, ac os felly byddai wedi cael ei wneud gan etifedd yr ystâd yn y pen draw (ar ôl sawl newid dwylo i lawr y teulu) sef Syr Henry Percy Gordon, a oedd yn adnewyddu'r ystâd. Prynodd Richard Bull ystâd Northcourt ar Ynys Wyth yn 1795, ac arhosodd y teulu yno hyd at 1938, gyda'r llyfrgell yn cael ei throsglwyddo drwy ddwylo sawl cenhedlaeth cyn cael ei gwerthu gan Robert William Disney Leith (Arglwydd Burgh) yn fuan ar ôl marwolaeth ei wraig, yn 1926. Y flwyddyn y cafodd Bangor y llyfr.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2017

Site footer