Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cyfweliad gyda Shan Robinson, Cydlynydd Casgliadau Arbennig

Ellwch ddweud ychydig wrthyf am gasgliadau'r llyfrgell a'u hanes?Cyfweliad gyda Shan Robinson, Cydlynydd Casgliadau Arbennig Cyfweliad gyda Shan Robinson, Cydlynydd Casgliadau Arbennig

Gellir olrhain gwreiddiau'r llyfrgell a'n casgliadau arbennig yn ôl i W.J. Parry 'amddiffynnydd y chwarelwyr'.  Yng Ngorffennaf 1883 (cyn i'r Coleg Prifysgol agor) ysgrifennodd Parry at y Cyrnol Sackville West i awgrymu iddynt ddechrau llyfrgell i'r Coleg ac y byddai ef yn bersonol yn rhoi tri chant a hanner o gyfrolau iddi.   Ym Medi 1883, anfonodd Parry gylchlythyr at lu o gyfranwyr posibl yn gofyn am gyfraniadau ganddynt at y casgliad.   Fel hyn yr ysgrifennodd yn y cylchlythyr:

"Rhaid i lyfrgell sefydliad o'r fath ddod, ymhen amser, o fudd a mantais anfesuradwy i Ogledd Cymru gyfan.  Dylai gynnwys copïau o'r holl hen gyhoeddiadau Cymraeg gwerthfawr, llawysgrifau a llyfrau'n ymwneud â hanes Cymru, yn ogystal â gweithiau llenyddiaeth fodern.   Mae pob awdur ar bynciau Cymreig wedi teimlo'r angen ers blynyddoedd am lyfrgell yn cynnwys yr holl weithiau'n ymdrin â hanes Cymru, a hanes ei llenyddiaeth.   Fy mwriad i yw dechrau casgliad o'r fath y bydd yn rhaid iddo ddod yn fwyfwy gwerthfawr o genhedlaeth i genhedlaeth."

Mewn gwirionedd, daeth llawer o'n llyfrau gorau drwy haelioni cyfranwyr lleol ac rydym yn dal i dderbyn rhoddion gan y cyhoedd sy'n cyfoethogi ac ychwanegu at ein casgliadau hanesyddol.  Rydym hefyd, pan fo cyllid yn caniatáu, yn prynu eitemau sy'n llenwi unrhyw fylchau yn ein casgliad arbennig.  Mae'n sicr yn gasgliad byw ac rydym yn cadw golwg bob amser am lyfrau a all ddod yn brin a chasgladwy yn y dyfodol.

Ynghyd â charedigrwydd pobl leol, mantais arall i ddatblygiad llyfrgell Bangor oedd cyflogi cyfres o lyfrgellwyr dylanwadol a dawnus, Thomas Shankland, Thomas Richards a Derwyn Jones.   Diolch i bolisi casglu brwd y llyfrgellwyr hyn, mae gan ysgolheigion Bangor at eu defnydd ganran hynod uchel o holl lyfrau o ddiddordeb Cymreig, ac yn arbennig diddordeb lleol.  Yn wir, yn 2004 teimlai Geraint Jenkins y gallai ddisgrifio'r llyfrgell ym Mhrifysgol Bangor fel "gwir lyfrgell genedlaethol Cymru".  Oherwydd amrywiaeth y pynciau a ddysgwyd dros y 130 mlynedd diwethaf rydym yn hynod ffodus o fod wedi adeiladu casgliadau arbennig yn y gwyddorau ac yn y celfyddydau a'r dyniaethau.   Mae'r rhan fwyaf o'n casgliadau arbennig a llyfrau prin i'w cael mewn 3 rhes ar wahân yn ein Hystafell Derwyn Jones, ynghyd â'n casgliadau Brangwyn, Herbert Lewis, Cerddi Bangor, a llyfrau prin Arthuraidd.  Mae casgliadau penodedig eraill, megis un Owen Pritchard a Chasgliad yr Eglwys Gadeiriol, yn cael eu cadw mewn mannau eraill yn y Brif Lyfrgell.   Cedwir llawer o'n casgliadau arbennig yn Llyfrgell y Normal, megis y casgliadau Llyfrau Cymraeg i Blant, Clwb y Dringwyr a'r Pinnacle Club.

Mae'r llyfrgell yn gartref i 3 canolfan swyddogol, Canolfan R.S. Thomas a sefydlwyd yn Ebrill 2000, Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr a sefydlwyd yn Nhachwedd 2016 a'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd a sefydlwyd yn Ionawr 2017.  Cyfeirir at y rhain hefyd fel casgliadau arbennig.

Ellwch chi ddweud wrthyf am unrhyw waith rydych yn ei wneud ar y casgliadau ar hyn o bryd?The Story of the Glittering Plain, William Morris The Story of the Glittering Plain, William Morris

Mae fy niwrnod gwaith yn hynod amrywiol ac mae'r hyn rwy'n gweithio arno yn dibynnu ar flaenoriaethau.   Ar hyn o bryd mae gennyf nifer o brojectau, tasgau a chyfrifoldebau, yn cynnwys diweddaru a chreu tudalennau newydd i'r wefan, trefnu digwyddiadau hyrwyddo i'r Canolfannau, creu llenyddiaeth hyrwyddol newydd i'r Canolfannau, rheoli projectau digidol, llunio llif gwaith a dulliau gweithredu i'w defnyddio wrth ddigideiddio, hyfforddi interniaid a gwirfoddolwyr. 

 Fy nghyfrifoldebau o ddydd i ddydd yw ateb ymholiadau, nôl eitemau prin/casgliad arbennig i ddarllenwyr, rhoi llyfrau prin ar y silffoedd, helpu yn yr Archifau pan fo angen, gwaith cadwraeth syml pan fo angen - sydd hefyd yn cynnwys rota glanhau'r gwahanol ystafelloedd lle cedwir y casgliadau.  Rwyf hefyd yn arwain teithiau o amgylch y Canolfannau a'r Llyfrgell ac weithiau daith gerdded hanesyddol o amgylch yr adeilad.  Nid yw hon yn rhestr gyflawn o'm dyletswyddau a gall blaenoriaethau newid yn sydyn iawn.  Er mwyn diweddaru'r wefan rwy'n ymchwilio i'n casgliadau penodedig, gan ddechrau gyda Chasgliad Owen Pritchard, sy'n cynnwys rhai llyfrau hardd iawn o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.

Ellwch chi ddweud ychydig wrthyf am gasgliad Owen Pritchard a pham rydych yn credu ei fod yn bwysig?

Ffurfiwyd y casgliad gan Dr Owen Pritchard rhwng 1884 a 1920 ac fe'i cyflwynwyd ganddo i'r coleg yn 1920.  Mae'r casgliad yn cynnwys llawer o weithiau a argraffwyd gan weisg preifat diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.   Mae gan y casgliad gopïau o'r rhan fwyaf o'r gweisg a gynrychiolid yn y Mudiad Gweisg Preifat o'r cyfnod hwnnw.  Gweisg megis Ashendene, Kelmscott, Ballantyne, Doves, Eragny, Russell, a'r Vale Press, ynghyd â gweithiau eraill o ddiddordeb i wir connoisseur y llyfr cyhoeddedig.  

Storfa Deunyddiau Ymchwil

Mae'r Storfa Deunyddiau Ymchwil, a gafodd ei chreu yn 2010, yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd printiedig nad oes defnydd mawr arno, yn cynnwys:

  • Cyfnodolion printiedig - 2,700 o deitlau 
  • Llyfrau a dynnwyd o'r llyfrgelloedd - 27,000
  • Casgliad gwerthfawr o ddeunydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif sydd heb ei gatalogio.  Mae'r casgliad hwn yn unigryw. Mae'n cefnogi sefydlu Canolfan Ymchwil y Llyfr, ac yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd gwreiddiol sydd o werth i ymchwilwyr - 35,000 
  • Llawer o gasgliadau arbennig - h.y. Casgliad Winton Thomas 
  • Deunydd Cymreig printiedig a chyhoeddedig (wedi'i gynnwys yn y ffigwr a nodwyd ar gyfer y casgliad sydd heb ei gatalogio)
  • Pamffledi ac effemera 

 Mae fan y llyfrgell yn gwneud teithiau dyddiol i nôl deunydd y gofynnwyd amdano gan fyfyrwyr a staff.

Beth ydych chi'n ei ragweld fydd gwaith Canolfan Stephen Colclough yn ei wneud i'r casgliadau?

Bydd Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr yn rhoi ffocws i'n casgliadau.  Bydd gobeithio'n denu a rhoi cyfleoedd ymchwil i bobl o bob rhan o'r byd.  Yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf mae Hanes y Llyfr wedi dod i'r amlwg fel maes ymchwil rhyngddisgyblaethol hynod bwysig a deinamig ac felly bwriadwn i'r Ganolfan weithredu fel canolbwynt i brojectau ymchwil yn ymwneud â Hanes, Diwylliant a Materoldeb y Llyfr.

Mae ysgolheigion yn gweithio yn yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg wedi cyflawni nifer o brojectau hanesyddol sy'n ymchwilio i destunau ac arferion darllen o'r oesoedd canol, y cyfnod modern cynnar ar cyfnod modern. Mae'r rhain yn cynnwys digideiddio Esgoblyfr Bangor a helaethu'r Gronfa Ddata Profiad Darllen yn adnodd sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer ysgolheigion y dyniaethau.

Bydd y Ganolfan yn cynorthwyo strategaeth y brifysgol i gefnogi a chryfhau'r profiad a gaiff myfyrwyr, yn arbennig ym meysydd y Celfyddydau a'r Dyniaethau.  Bydd yn bwysig hefyd i'n myfyrwyr rhyngwladol sy'n rhoi pwys ar hen lyfrau a'u hanes, ac yn wir ar hanes Cymru ac argraffwyr Cymreig.  Bydd hyn yn pwysleisio natur unigryw Bangor a rhoi amlygrwydd i'r iaith Gymraeg.

Mae Hanes y Llyfr yn bwysicach heddiw nag erioed oherwydd y newidiadau cyson sy'n digwydd ym myd cyhoeddi a'r cyfryngau.  Bwriadwn i'n Canolfan fod ar y blaen mewn trafodaethau a dadleuon yn y maes hwn yn y dyfodol.  Gyda'r adnoddau cyfoethog sydd gennym rydym mewn sefyllfa gref i wneud hynny.

Booke of haukynge, huntyng and fysshyng, 1496, printed by Wynken de WordeBooke of haukynge, huntyng and fysshyng, 1496, printed by Wynken de WordeRwy'n deall eich bod yn awyddus i hyrwyddo'r casgliadau a mynediad atynt - pam mae hyn yn bwysig, a sut rydych yn gwneud myfyrwyr/academyddion/ y cyhoedd yn ymwybodol o'r casgliadau?

Hyrwyddo! Hyrwyddo! Hyrwyddo! Rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle i sicrhau bod y llyfrau hyn yn cael eu darllen.  Mae llyfr na chaiff ei ddarllen yn beth trist yn wir, ac er mwyn tanio dychymyg pobl mae'n rhaid i ni roi ystyr a chyd-destun i'r eitemau niferus a restrir yn ein catalog.  Er bod cefnogi myfyrwyr, ymchwilwyr a staff Prifysgol Bangor wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, mae gan ein casgliadau arwyddocâd ehangach na dim ond gwasanaethu anghenion darllen y brifysgol.   Mae hwn yn adnodd diwylliannol pwysig, yn arbennig i astudio holl agweddau hanes lleol a diwylliant a chymdeithas Cymru.  Felly, wrth ei hyrwyddo mae'n rhaid i ni wynebu'r her o roi cyfleoedd i'r holl gymuned ei ddefnyddio. 

Mae angen inni fod yn greadigol, cydweithredol a chynhwysol.   

Yn olaf, oes gennych chi hoff lyfr o unrhyw un o'r casgliadau? 

Mae gofyn i mi ddewis hoff lyfr fel gofyn i fam ddewis hoff blentyn.   Fodd bynnag, pe bai rhywun yn pwyso arnaf, mae'n rhaid i mi ddweud mai'r eitem o'r casgliadau arbennig sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnaf yw llyfr gyda'r teitl "Anghydfod y Chwarel / The Quarry Dispute".   Ond nid un llyfr yw hwn mewn gwirionedd ond casgliad o bamffledi wedi'u rhwymo gyda'i gilydd.  Thema’r pamffledi yw Streic Fawr y Penrhyn 1900-1903.  Mae hwn yn neilltuol berthnasol i mi'n bersonol gan fod cenedlaethau o'm teulu wedi gweithio yn Chwarel y Penrhyn, ac rwy'n byw yn yr hyn a elwir ar lafar yn 'stryd y gynffon'.  Roedd y rhain yn dai a adeiladwyd yn benodol gan Penrhyn, yn Nhregarth, er mwyn denu chwarelwyr ar streic yn ôl i'r gwaith.  Gelwid y rhai a dorrai'r streic ac a fanteisiai ar dai newydd Penrhyn yn 'gynffonwyr'. 

Mae'r llyfr yn cynnwys enghreifftiau o'r holl gyhoeddiadau a ddosbarthwyd yn ystod y streic.  Mae'r rhain yn cynnwys deunydd ar wreiddiau'r streic, adroddiadau, apeliadau a chrynodeb o ddigwyddiadau - y cyfan wedi'u rhwymo yn un llyfr defnyddiol.   Ei berchen gwreiddiol oedd W.J. Parry, "Amddiffynnwr y Chwarelwyr" fel y gelwid ef.  Parry oedd arweinydd ac ysgrifennydd yr Undeb.   Mae'r llyfr hwn yn adrodd hanes yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes diwydiannol Prydain ac mae o gymaint diddordeb yn rhyngwladol ag ydyw yn lleol.  A dyna ni wedi dod yn ôl drachefn at wreiddiau'r llyfrgell gan fod hwn yn un o'r eitemau gwreiddiol a roddwyd gan W.J. Parry ei hun. 

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017

Site footer