Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddion: Rhagfyr 2016

Camelot Arthur – ydy’r chwilio wedi dod i ben o’r diwedd?

Mae'r ymdrech i ddod o hyd i Camelot y Brenin Arthur wedi peri penbleth ac wedi ennyn chwilfrydedd ysgolheigion a selogion ers mil o flynyddoedd. Bellach, mae'n bosib bod y chwilio ar ben o’r diwedd.

Mae Peter Field, Athro Emeritws mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, wedi darganfod  yr hyn y mae'n credu yw safle Camelot Arthur.  Mewn darganfyddiad a fydd o ddiddordeb i archeolegwyr, haneswyr, ysgolheigion llenyddol, a selogion Arthuraidd o gwmpas y byd, bydd yr Athro Field yn datgelu safle Camelot yn ystod ei ddarlith Shankland, ‘Searching for Camelot', ym Mhrifysgol Bangor ar 14 Rhagfyr.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2016

Site footer