Croeso
Canolfan ryngddisgyblaethol yw Canolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr i hyrwyddo astudiaethau uwch o orffennol, presennol a dyfodol y llyfr fel arteffact, a'r diwylliannau sy'n gysylltiedig ag ef. Gan weithio mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mangor a thu hwnt, mae diben deublyg i'r Ganolfan: cryfhau ac ehangu ein dealltwriaeth o le'r llyfr mewn meysydd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd, a datblygu ein dealltwriaeth o'r llyfr yn gyffredinol fel nwydd diwylliannol, cludydd gwybodaeth a rhywbeth i'w chwenychu.